A yw Cymru’n Barod ar gyfer y Sychder Anochel Nesaf?

Mae cyfnod hynod sych eleni yn ein hatgoffa'n glir bod gwydnwch Cymru yn wyneb newid hinsawdd yn dibynnu ar Gynllun Cenedlaethol hirdymor ar gyfer D?r.

Dydd Llun, 5ed Hydref, 2026

Wrth i Gymru ddechrau adfer yn araf o sychder yr haf, mae Afonydd Cymru yn myfyrio ar ei rôl ar Gr?p Cyswllt Sychder Llywodraeth Cymru ac ar sut mae angen i ni baratoi cyn yr un nesaf. Mae'r haf hwn wedi atgyfnerthu'r angen i ganolbwyntio ar adnoddau d?r yn ogystal ag ansawdd d?r, os ydym am gryfhau gwydnwch afonydd Cymru.

Mae dau fath o sychder: sychder amgylcheddol a sychder cwmni d?r.

Mae sychder amgylcheddol, sydd mewn grym yng Nghymru ar hyn o bryd, yn cael ei bennu gan CNC ac yn deillio o gyfnod hir heb fawr o law, gostyngiad sylweddol yn llif afonydd ac effaith debygol ar fyd natur.

Mae sychder cwmni d?r, sy'n cael ei ddatgan gan gwmnïau d?r, yn digwydd pan fo'r cyflenwad i gwsmeriaid yn cael ei effeithio naill ai gan brinder adnoddau (d?r daear, cronfeydd d?r ac afonydd) neu oherwydd methiant yn y system ddosbarthu. Cyflwynodd D?r Cymru waharddiad ar ddefnyddio pibellau d?r yng Ngorllewin Cymru oherwydd ‘galw parhaus sy'n rhoi pwysau cynyddol ar y rhwydwaith cyflenwi d?r lleol’.

Mae hyn yn codi rhai cwestiynau diddorol. Beth sy'n gyrru'r galw hwnnw? Ai lefelau uchel o ddyfrio gerddi sydd ar fai? A wnaethom ni lenwi gormod o byllau padlo? A yw'r pibellau'n gollwng gormod? A yw rhagolygon y galw yn gywir? A ydym yn tybio y bydd cwsmeriaid yn defnyddio d?r yn fwy doeth mewn haf poeth, pan na fyddant yn gwneud hynny? Ai diffyg buddsoddiad i ddiwallu'r galw parhaus am dd?r ac i fynd i'r afael â gollyngiadau sydd i gyfrif? Wrth i'r hafau fynd yn boethach ac yn sychach, a ydym yn barod i leihau faint o dd?r rydym yn ei ddefnyddio a newid ein harferion? Faint ydym yn barod i'w wario i ddiogelu ein hamgylchedd? Cwestiynau cymhleth i gyd, ac nid cwmnïau d?r yw'r unig rai sy'n tynnu d?r o'r amgylchedd yn ystod yr haf.

Nododd CNC y sectorau sy'n defnyddio d?r yn ei Adroddiad Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn 2025. Dangosodd hefyd, er bod y diwydiant d?r wedi lleihau faint o dd?r y mae'n ei dynnu dros y pum mlynedd diwethaf, fod sectorau eraill yn cynyddu eu rhai hwy.

CNC yw'r rheoleiddiwr amgylcheddol sy'n gyfrifol am reoli adnoddau d?r yng Nghymru. Nid yw ei gynlluniau ar gyfer rheoli adnoddau d?r yng Nghymru a phennu faint o dd?r sydd ar gael i'w dynnu, sef y Strategaethau Rheoli Tynnu D?r Dalgylchoedd (CAMS), wedi cael eu diweddaru'n sylweddol ers i CNC wahanu oddi wrth Asiantaeth yr Amgylchedd yn 2013, ac nid ydynt yn ystyried sut y gallai newid hinsawdd effeithio ar faint o dd?r fydd ar gael dros y blynyddoedd nesaf.

A dim ond tynnu d?r drwy'r broses drwyddedu y mae hynny'n ei gwmpasu, sydd yng Nghymru ond yn berthnasol i dynnu mwy nag 20,000 litr y dydd. Wrth i lefelau afonydd ostwng ledled Cymru eleni, dau sector heb drwyddedau a gafodd eu taro galetaf. Y cyntaf oedd cyflenwadau d?r preifat, yn aml tyllau turio ar eiddo gwledig nad yw'n hawdd eu cysylltu â'r prif gyflenwad d?r. Yr ail oedd tynnu d?r at ddibenion amaethyddol, yn aml ar gyfer da byw, a all fod o dyllau turio neu o afonydd. Mae hyn yn awgrymu, felly, mai'r rhai sy'n tynnu d?r yn y sectorau hyn fydd yn rhoi'r pwysau mwyaf yn y dyfodol, a hynny pan fo afonydd ar eu hisaf. Bydd angen rheoli ein hadnodd d?r gwerthfawr yn llawer gwell er mwyn sicrhau Cymru wledig wydn.

A dim ond tynnu d?r drwy'r broses drwyddedu y mae hynny'n ei gwmpasu, sydd yng Nghymru ond yn berthnasol i dynnu mwy nag 20,000 litr y dydd. Wrth i lefelau afonydd ostwng ledled Cymru eleni, dau sector heb drwyddedau a gafodd eu taro galetaf. Y cyntaf oedd cyflenwadau d?r preifat, yn aml tyllau turio ar eiddo gwledig nad yw'n hawdd eu cysylltu â'r prif gyflenwad d?r. Yr ail oedd tynnu d?r at ddibenion amaethyddol, yn aml ar gyfer da byw, a all fod o dyllau turio neu o afonydd. Mae hyn yn awgrymu, felly, mai'r rhai sy'n tynnu d?r yn y sectorau hyn fydd yn rhoi'r pwysau mwyaf yn y dyfodol, a hynny pan fo afonydd ar eu hisaf. Bydd angen rheoli ein hadnodd d?r gwerthfawr yn llawer gwell er mwyn sicrhau Cymru wledig wydn.

Mae hyn yn codi rhai cwestiynau diddorol. Beth sy'n gyrru'r galw hwnnw? Ai lefelau uchel o ddyfrio gerddi sydd ar fai? A wnaethom ni lenwi gormod o byllau padlo? A yw'r pibellau'n gollwng gormod? A yw rhagolygon y galw yn gywir? A ydym yn tybio y bydd cwsmeriaid yn defnyddio d?r yn fwy doeth mewn haf poeth, pan na fyddant yn gwneud hynny? Ai diffyg buddsoddiad i ddiwallu'r galw parhaus am dd?r ac i fynd i'r afael â gollyngiadau sydd i gyfrif? Wrth i'r hafau fynd yn boethach ac yn sychach, a ydym yn barod i leihau faint o dd?r rydym yn ei ddefnyddio a newid ein harferion? Faint ydym yn barod i'w wario i ddiogelu ein hamgylchedd? Cwestiynau cymhleth i gyd, ac nid cwmnïau d?r yw'r unig rai sy'n tynnu d?r o'r amgylchedd yn ystod yr haf.

Nododd CNC y sectorau sy'n defnyddio d?r yn ei Adroddiad Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn 2025. Dangosodd hefyd, er bod y diwydiant d?r wedi lleihau faint o dd?r y mae'n ei dynnu dros y pum mlynedd diwethaf, fod sectorau eraill yn cynyddu eu rhai hwy.

Er bod rhai cyflenwadau preifat wedi'u cofrestru gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac awdurdodau lleol, nid oes gennym gofnod cyflawn o'r achosion hyn o dynnu d?r gan nad oes angen trwydded ar eu cyfer yng Nghymru. Bu Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi'r sector ffermio yr haf hwn drwy ganiatáu datblygu cronfeydd d?r ar ffermydd, ond gan eu bod yn ddatblygiadau a ganiateir, nid ydym yn cadw cofnod ohonynt chwaith. Felly, nid oes gennym unrhyw syniad faint o dd?r i gyd sy'n cael ei dynnu o'n hafonydd bregus yn ystod sychder.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. Mae hefyd ar fin diwygio'r ffordd y mae'n rheoli d?r yng Nghymru. Mae 2026 wedi bod yn atgof clir bod newid hinsawdd a thywydd eithafol yn gofyn am Gynllun Cenedlaethol hirdymor ar gyfer D?r. Mae economi wledig Cymru yn dibynnu arno er mwyn bod yn wydn, ac felly hefyd afonydd mawreddog Cymru.

Cyhoeddwyd: 5ed Hydref, 2026