Teitl y Swydd: Rheolwr Eiriolaeth a Chyfathrebu
Yn atebol i: Y Prif Weithredwr
Lleoliad: Gweithio gartref, gyda theithio rheolaidd ledled Cymru i fynychu cyfarfodydd ac ymweld â safleoedd
Math o Gyflogaeth: Llawn amser, ar gontract cyfnod penodol am ddwy flynedd yn y lle cyntaf
Cyflog: Yn dibynnu ar brofiad, hyd at uchafswm o £45,000 i ddechrau
Oriau: 37.5 awr yr wythnos
Diben y Swydd
Mae Afonydd Cymru yn chwilio am reolwr eiriolaeth a chyfathrebu profiadol sy’n siarad Cymraeg yn rhugl i ymuno â’n tîm wrth i ni barhau i nodi ystod ehangach o bwysau ar ein hafonydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol wrth godi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio ar afonydd Cymru, dylanwadu ar benderfynwyr, ymgysylltu â rhanddeiliaid a sbarduno newid amgylcheddol cadarnhaol.
Mae gennym yr hyblygrwydd i lunio’r rôl hon yn unol ag arbenigedd yr ymgeisydd llwyddiannus. Fodd bynnag, byddem yn croesawu aelod newydd o’r tîm a all ddangos profiad ar draws y sector d?r ac ym maes afonydd, ynghyd â gwybodaeth gadarn am y cyd-destun deddfwriaethol a pholisi yng Nghymru. Arbenigedd a phrofiad ym maes eiriolaeth a chyfathrebu, ynghyd â sgiliau ysgrifennu, yw’r prif flaenoriaethau, ond byddai gwybodaeth am y sector d?r a’i bolisïau o fudd mawr yn y rôl. Rydym yn chwilio am unigolyn i helpu i gefnogi’r tîm mewn ystod o feysydd eiriolaeth, gan gynnwys, er enghraifft, rheoli tir, y diwydiant d?r, atebion sy’n seiliedig ar natur a newid yn yr hinsawdd.
Bydd y rôl hefyd yn allweddol wrth gyfathrebu am ein gwaith eiriolaeth, felly mae angen rhywun sy’n gyfforddus yn ysgrifennu datganiadau i’r wasg ac sy’n gallu rhoi cyfweliadau i’r cyfryngau. Bydd y rôl yn cynnwys cefnogi’r Prif Weithredwr i gyflawni gwaith cyfathrebu Afonydd Cymru.
Mae Afonydd Cymru yn gweithredu gyda strwythur tîm agored, lle mae pob aelod yn cefnogi’r lleill er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni’n barhaus ac yn ddidrafferth. Bydd angen i’r ymgeisydd ddangos ei fod yn gweithio’n dda fel rhan o dîm, a byddwn yn chwilio am unigolyn sy’n gallu gweithio yn unol â’r model hwn.
Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle sylweddol i sbarduno newid ar draws ystod eang o feysydd, drwy weithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, gwleidyddion, rheoleiddwyr, grwpiau cymunedol a rheolwyr tir. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio gyda rhywfaint o annibyniaeth a gallu arfer barn briodol er mwyn cyflawni nodau strategol Afonydd Cymru, cynrychioli ymddiriedolaethau afonydd rhanbarthol yn effeithiol a chryfhau ein safle cydnabyddedig fel corff sy’n arwain ar faterion technegol yn ymwneud ag afonydd yng Nghymru.
Prif Gyfrifoldebau
Eiriolaeth
- Datblygu a gweithredu strategaethau eiriolaeth a chyfathrebu effeithiol sy’n cyd-fynd â chenhadaeth ac amcanion strategol y sefydliad.
- Nodi materion sy’n dod i’r amlwg mewn perthynas ag afonydd, datblygiadau polisi a chyfleoedd ar gyfer eiriolaeth ac ymgysylltu â’r cyhoedd.
- Llunio achosion dros newid, ar sail tystiolaeth, ymchwil a safbwyntiau rhanddeiliaid, mewn meysydd megis amaethyddiaeth, y diwydiant d?r, bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd.
- Meithrin a chynnal perthnasoedd â llunwyr polisi, cynrychiolwyr etholedig, adrannau’r llywodraeth, sefydliadau amgylcheddol, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid eraill.
- Cynrychioli’r sefydliad mewn cyfarfodydd, cynadleddau, gweithgorau, ymgynghoriadau a fforymau cyhoeddus perthnasol.
- Helpu i gydlynu ymatebion i ymgynghoriadau’r llywodraeth, cynigion polisi a strategaethau amgylcheddol perthnasol.
- Llunio papurau briffio ar eiriolaeth, datganiadau safbwynt, ymatebion i ymgynghoriadau a deunyddiau cyfathrebu ar bolisi.
- Monitro datblygiadau gwleidyddol, rheoleiddiol ac amgylcheddol ac asesu eu heffaith bosibl ar y sefydliad a’i randdeiliaid.
- Cefnogi y sefydliad i gyfranu i rwydweithiau, clymbleidiau a phartneriaethau perthnasol.
- Nodi cyfleoedd ar gyfer cyfathrebu ar y cyd ac eiriolaeth ar y cyd.
Cyfathrebu
- Arwain y strategaeth gyfathrebu i gefnogi amcanion y sefydliad.
- Arwain y gwaith o gynhyrchu deunyddiau cyfathrebu o ansawdd uchel, gan gynnwys datganiadau i’r wasg, papurau briffio, adroddiadau, cylchlythyrau, erthyglau, cynnwys ar gyfer y wefan a deunyddiau ymgyrchu.
- Datblygu negeseuon clir ac argyhoeddiadol am faterion amgylcheddol cymhleth ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.
- Goruchwylio cyfathrebu digidol y sefydliad a’i weithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Gweithio gyda chydweithwyr i nodi straeon, astudiaethau achos, cyflawniadau a materion amgylcheddol sy’n addas i’w rhannu’n allanol.
- Datblygu cynlluniau cyfathrebu ar gyfer ymgyrchoedd, adroddiadau, cyhoeddiadau polisi a mentrau’r sefydliad.
- Sicrhau cysondeb o ran negeseuon, arddull cyfathrebu a hunaniaeth weledol y sefydliad.
- Meithrin perthnasoedd â newyddiadurwyr a sefydliadau cyfryngol perthnasol, a rhoi cyfweliadau i’r cyfryngau yn ôl yr angen.
- Monitro sylw yn y cyfryngau a thrafodaethau cyhoeddus am faterion amgylcheddol perthnasol.
- Rheoli’r gwaith cyfathrebu mewn sefyllfaoedd sy’n ymwneud â materion amgylcheddol sensitif neu a allai ddenu cryn sylw cyhoeddus, neu faterion sy’n effeithio ar enw da’r sefydliad.
- Cefnogi Cadeirydd ein Bwrdd a’n hymddiriedolwyr i roi darpariaethau ein herthyglau elusennol ar waith.
Arweinyddiaeth Strategol
- Datblygu cynlluniau eiriolaeth a chyfathrebu blynyddol sy’n nodi amcanion, cynulleidfaoedd, gweithgareddau a mesurau llwyddiant clir.
- Rheoli cyllidebau, cyflenwyr allanol, ymgynghorwyr ac asiantaethau yn ôl yr angen.
- Sefydlu systemau effeithiol ar gyfer monitro a gwerthuso gweithgarwch eiriolaeth a chyfathrebu.
- Defnyddio data, ymchwil, dealltwriaeth o gynulleidfaoedd a gwybodaeth am berfformiad ymgyrchoedd i gynyddu effaith y gwaith.
- Cyfrannu at strategaeth y sefydliad a’i waith cynllunio busnes.
- Nodi cyfleoedd i godi proffil y sefydliad a chynyddu ei ddylanwad a’i effaith.
Manyleb y Person
Profiad Hanfodol
- O leiaf pum mlynedd o brofiad ym maes eiriolaeth amgylcheddol, ymgyrchu, cyfathrebu, materion cyhoeddus, polisi neu faes sy’n perthyn yn agos.
- Profiad y gellir ei ddangos o ddatblygu a gweithredu strategaethau eiriolaeth neu ymgyrchu llwyddiannus.
- Profiad o ddylanwadu ar benderfynwyr, llunwyr polisi, cyrff cyhoeddus neu randdeiliaid eraill.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol.
- Gallu amlwg i gyfleu materion amgylcheddol neu bolisi cymhleth yn glir ac yn argyhoeddiadol.
- Profiad o weithio gyda’r cyfryngau a rhoi cyfweliadau iddynt.
- Profiad o feithrin perthnasoedd ag ystod o randdeiliaid a phartneriaid.
- Ymwybyddiaeth wleidyddol ac amgylcheddol gadarn.
- Profiad o gydweithio ar draws timau a sefydliadau.
- Y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl.
Profiad Dymunol
- Gwybodaeth am bolisi a deddfwriaeth amgylcheddol y DU a Chymru.
- Profiad o reoli asiantaethau allanol neu ymgynghorwyr.
- Profiad o gyfathrebu mewn argyfwng neu ymdrin â materion sy’n effeithio ar enw da sefydliad.
- Profiad o ennyn cyfranogiad cymunedau mewn eiriolaeth a chyfathrebu amgylcheddol.
- Profiad o ddefnyddio data dadansoddol a gwybodaeth am gynulleidfaoedd i fesur effaith gwaith cyfathrebu ac ymgyrchoedd.
Cymwysterau
Hanfodol
- Gradd, cymhwyster proffesiynol neu brofiad cyfatebol perthnasol.
Dymunol
- Hyfforddiant perthnasol mewn ymgyrchu, eiriolaeth, cysylltiadau â’r cyfryngau neu bolisi amgylcheddol.
Rydym yn cynnig:
- Cyflog cystadleuol gydag adolygiadau cyflog blynyddol sy’n gysylltiedig â pherfformiad.
- Pensiwn
- Yswiriant bywyd.
- Cynlluniau hyfforddi a chymorth i weithwyr.
- Polisi gweithio hyblyg.
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 30 Hydref 2026
Cyfweliadau: Canol mis Tachwedd 2026, wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd.
Rhaid i ymgeiswyr ddarparu llythyr eglurhaol sy’n cynnwys dolenni at enghreifftiau diweddar o waith cyfathrebu y maent wedi’i arwain, a dechrau eu cais gyda’r geiriau ‘Advocacy and Communications’. Darparwch gopi o’ch CV hefyd. Ni ddylai’r llythyr na’r CV fod yn hwy na dwy dudalen yr un. Gwrthodir ceisiadau nad ydynt yn bodloni’r meini prawf hyn.
Danfonwch yr uchod i admin@afonyddcymru.org os gwelwch yn dda..
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Yn Afonydd Cymru, rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym yn falch o groesawu ceisiadau gan bawb sy’n bodloni meini prawf y rôl, waeth beth fo’u hoedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, neu gyfeiriadedd rhywiol.
Y Broses Ymgeisio
Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr yr amser, yr ymdrech a’r egni sy’n mynd i mewn i bob cais a gyflwynir i ni. Fel elusen fach, mae ein hadnoddau’n gyfyngedig, sy’n golygu, yn anffodus, nad ydym yn gallu rhoi adborth unigol nac ymateb i ymgeiswyr aflwyddiannus.
Os nad ydych wedi clywed gan ein tîm erbyn 30 Tachwedd 2026, cymerwch yn ganiataol nad yw eich cais wedi symud ymlaen i’r cam cyfweld y tro hwn. Diolch am eich dealltwriaeth ac am eich diddordeb mewn cefnogi ein gwaith.